Mudiad ieuenctid gwreiddiol am Cymru Annibynnol

Mae ein cenedl yn sefyll ar ddibyn. Mae San Steffan yn tyfu mwy a mwy llawdrwm tuag at ddatganoli a chenedlaetholdeb yng Nghymru ac yn yr Alban, mae perchnogaeth ail-gartrefi a system addysg yn ddirywio ac yn bygythio ein iaith, ac mae dilyniad ddi-hil o tyfiant a cyfalafiaeth ddilyffethair yn ddinistrio ein hamgylchedd…

Cenhadaeth ni yw adfyddino ieuenctid Cymru fel un ffrynt unedig, yn sefyll yn gadarn mewn gwrthwynebiad i ddinystr ein hunan-rheoliaeth, iaith, hunaniaeth a'in amgylchedd. O flaen wyneb Seisnigeiddio a newid hinsawdd sicr, mae cymdeithasau eraill di methu gafael difrifoldeb y sefyllfa da ni'n ein wynebu

Barod i gymryd yr cam nesaf?

Mudiad dros bywyd ein genedl di hyn. Ai da chi'n mwyaf gyffyrddus yn gyfrannu amser i helpu ein ymgyrch, pres i helpu ni tyfu, neu egni i rhoi gwasgedd gwleidyddol ar ein llywodraeth i achosi newid, da ni'n eich angen ar ein tîm

Y DEG EGWYDDORION

1. Mae Cymru yn genedl sydd yn cael ei ddiffinio gan ei ffiniau daearyddol, ei phobl (Y Cymry), ei diwylliant ag ei hiaith.

2. Mae Cymru yn hen wlad Celtaidd gyda hawl i hunan-benderfynu ac annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig.

3. Cymraeg yw iaith frodorol y Cymry a mae angen ei amddiffyn â'i hyrwyddo gyda'r nôd o'i adfer fel y iaith fwyafrifol.

4. Dylid datganoli grym i gymunedau lleol a systemau uniongyrchol a dylai democratiaeth gyfranogol gael ei sefydlu.

5. Fe ddylsa tai haf/ail gartrefi, sydd yn eiddo i Gymry ag phobl tramor, gael eu wneud yn anghynaladwy yn economaidd.

6. Nid yw Cymru yn ddarostyngedig i'r Tŷ Windsor na'r 'Tywysog Cymru' anghyfreithlon a dylai ymdrechu i ddiddymu'r sefydliad frenhinol.

7. Mae adnoddau Cymru yn perthyn i'r Cymry a ddylai Lloegr dalu am yr adnoddau sydd yn cael ei echdynnu.

8. Ni ddylai economi Cymru fod wedi'i seilio ar dwf diderfyn, ond yn hytrach, dylai anelu at wella safonau bywoliaeth a chydraddoldeb economaidd.

9. Dylai Cymru ddatblygu cysylltiadau agos â chyd-wledydd Celtaidd â'u cefnogi yn eu brwydr am ymreolaeth, yn ogystal â gwledydd bychain eraill.

10. Dylai Cymru wneud pob ymdrech i rhoi diwedd ar ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil a chreu economi werdd mewn harmoni gyda natur.

“Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid”

Cymdeithas yr Iaith

Mae’n amser sefyll i fyny dros Gymru a sicrhau y gall ein pobl parhau i ddatgan yn herfeiddiol “yma o hyd!” yn y canrifoedd i ddod.

Byddwch ymhilth y cyntaf i wybod am ein gweithgareddau drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.